gwanwyn

TAITH - Cerdd

Ma hi’n ‘stillio bwrw glaw tu allan, felly dyma soned sy’n son dipyn am yr haul…

Pan ddaeth yr haul i ganu drwy y drws

a’i lafnau aur i gosi gwar y ddol,

Pan aeth y glaw a gadael dagrau tlws

yn drysor brau o’r gaeaf yn ei ol,

Aeth llafn y gwydd i agor cwys o’r tir

dan flagur gwyn y ddraenen yn y gwrych;

fe welodd yntau ddiwedd oerfel hir

a syndod yn ei wedd i’r hollfyd gwych.

Hwn oedd y dydd yr aeth o freichia’i fam

yn gryf dros garped drud ei deyrnas fach,

a phwyll, gan ennill hyder fesul cam,

a sglein y dydd oedd yn ei chwarddiad iach;

Nes dod i’r drws a sefyll yno’n fud -

Fe’i dallwyd yn rhyfeddod swil y byd.